Gwastraff niwclear

Mae gwastraff niwclear (neu wastraff ymbelydrol) yn cynnwys deunydd ymbelydrol o wahanol lefelau ac sydd fel arfer yn achosi cancr. Caiff ei greu mewn atomfa ac mae'n isgynnyrch y broses a elwir yn ymasiad niwclear (sef y dull o greu ynni niwclear ar ffurf trydan). Mae'r gwastraff hwn hefyd yn cynnwys elfennau ymbelydrol megis wraniwm neu blwtoniwm allan o fomiau niwclear wedi'u datgomisiynu ac yn boen meddwl i'r gwyddonydd a'r gwleidydd gan nad oes unrhyw ddull dan haul, hyd yma, i'w storio'n saff. Mae rhai diwydiannau nad ydynt yn gysylltiedig â'r diwydiant niwclear hefyd yn cynhyrchu peth gwastraff niwclear a elwir yn "isel" o ran ei ymbelydredd.

Mae'r ymbelydredd yn lleihau dros amser, fel nad ydyw'n beryglus ar ôl rhyw gyfnod, a all olygu ychydig oriau (mewn meddygaeth) neu filoedd o flynyddoedd - mewn deunyddiau lefel uchel ee mae hanner oes Plwtoniwm-244 yn 80 miliwn o flynyddoedd. Yn fyr, ceir tair lefel o radioegniaeth:

  • lefel isel o radioegniaeth: gwastraff a gynhyrchir mewn adweithyddion, diwydiant ac ysbytai; cedwir y gwastraff hwn ar wahân mewn adeiladau pwrpasol, a'u storio am 100 mlynedd in-situ.
  • lefel ganolig: gwastraff o adweithyddion niwclear; cedwir y gwastraff yma gyda tharian o goncrit o'i amgylch neu ei uno mewn lwmp o goncrit neu dar.
  • lefel uchel: claddu'r gwastraff yn ddwfn yn y ddaear (gweler DSD, isod) neu eu gollwng i foroedd dyfnion fel y gwnaeth Lloegr a gwledydd eraill.[1]

Mae gwastraff lefel uchel (GLU) yn cael ei greu gan adweithyddion niwclear ac yn cynnwys cynnyrch yr ymholltiad niwclear ac elfennau fel wraniwm (yr elfennau Transwranig) ac sydd fel arfer yn boeth. Mae GLU yn 95% o holl wastraff niwclear. Caiff 12,000 tunnell fetrig ohono ei greu pob blwyddyn ledled y byd (cymaint â 100 bws deulawr ar ben ei gilydd).[2] Tan yn ddiweddar roedd y ddau adweithydd yn Wylfa 1000-MW yn cynhyrchu tua 27 tunnell o wastraff pob blwyddyn; sy'n dal i gael ei storio yno, heb ei "buro".[3]

Arwydd ger y fynedfa i safle prif adweithyddion niwclear yr UDA yn Hanford.

Yn Unol Daleithiau America, mae dau draean o wastraff niwclear y wlad yn cael ei storio yn Hanford, "the most contaminated nuclear site in the United States"[4][5]

  1. "Ministers admit nuclear waste was dumped in sea". The Independent. Llundain. 1997-07-01. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-12-19. Cyrchwyd 2014-05-11.
  2. [https://web.archive.org/web/20140529085304/http://www.marathonresources.com.au/nuclearwaste.asp Archifwyd 2014-05-29 yn y Peiriant Wayback. Marathon Resources Ltd :: Our Business :: Uranium Industry :: Nuclear Waste
  3. "Radioactive Waste management". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2010-06-11. Cyrchwyd 2014-05-11.
  4. Dininny, Shannon (3 Ebrill 2007). "U.S. to Assess the Harm from Hanford". Seattle Post-Intelligencer. Associated Press. Cyrchwyd 29 Ionawr 2007.
  5. Schneider, Keith (28 Chwefror 1989). "Agreement for a Cleanup at Nuclear Site". The New York Times. Cyrchwyd 30 Ionawr 2008.

© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search